SL(6)408 – Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae adran 5 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (“Deddf REUL”) yn darparu y bydd “cyfraith yr UE a ddargedwir” yn cael ei galw’n “gyfraith a gymathwyd” ar ôl diwedd 2023.  Mae termau cysylltiedig yn cael eu hail-enwi yn yr un modd gan adran 5, er enghraifft bydd “deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” yn cael ei galw’n “ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”.

Mae Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (“y Rheoliadau”) yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru o ganlyniad i’r newid hwn o ran terminoleg.  Er enghraifft, mae’r Rheoliadau yn disodli cyfeiriad at “gyfraith yr UE a ddargedwir” â chyfeiriad at “gyfraith a gymathwyd”, ac yn disodli cyfeiriad at “ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” â chyfeiriad at “ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd”, ym Mesur Gwastraff (Cymru). 2010.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, nid yw'r Rheoliadau yn arwain at unrhyw newid mewn polisi.  Yn hytrach, mae’r diwygiadau’n cael eu gwneud am resymau sicrwydd cyfreithiol a hygyrchedd.

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Fel y nodwyd yn y Memorandwm Esboniadol, dyma’r tro cyntaf i Weinidogion Cymru geisio arfer pwerau o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir. 

Nodir hefyd fod y Senedd ddwywaith wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad i'r Bil a ddaeth yn Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir. Cafodd Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil eu trafod, ac ni chytunwyd arnynt, yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2023 a 6 Mehefin 2023.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

15 Tachwedd 2023